Gwerthu eich cwch

OS YDYCH AM WERTHU EICH CWCH:
Mae'n bur debyg y gallwn ei werthu ynghynt ac am bris uwch. Gallwn arbed amser i chi drwy ymgymryd â'r gwaith papur. Gallwn eich tywys drwy'r ddrysfa gyfreithiol ac arbed trafferth i chi drwy ddelio gyda phobl sy'n taro heibio gydag ymholiadau cyffredinol. Gallwn roi cyngor i chi ar sut i baratoi eich cwch.
PAM:
Mae gennym fas data eang o ddarpar brynwyr a rydym yn gwario miloedd o bunnoedd y flwyddyn ar hysbysebu. Mae gennym y modd i hysbysebu'r cwch ar ein gwefan gan gyrraedd cynulleidfa anferth o ddapar brynwyr. Mae'n gwybodaeth o'r farchnad yn ein galluogi i'ch cynghori a'ch arwain er mwyn cael y pris uchaf am eich cwch. Rydym yn gweithio'n unol â Chôd Ymarfer Diwydiant Cychod Prydain ynglŷn â gwerthu cychod ail-law. Gall ein staff arbenigol roi cymorth a chyngor i chi.
SY'N GOLYGU:
Gall Porth Daniel ddelio gyda holl fanylion gwerthiant - pob agwedd o hysbysebu, cytundebu a chyfnewid. Gall Porth Daniel cynorthwyo gyda chyllid ac yswiriant ar gyfer y darpar brynwr.
COMISIWN:
Isafswm ffi o £400 yn cynnwys T.A.W. neu, os yn fwy 8%, ynghyd â T.A.W., o bris gwerthu'r cwch. Os nad yw'r perchennog, y cwch neu'r prynwr yma ym Mhrydain Fawr codir cyfradd ryngwladol o 10%. Codwn dâl T.A.W. ar gomisiwn ar gyfradd o 17.5%. Efallai bod y graddfeydd hyn yn ymddangos yn uchel o gymharu, er enghraifft, ag asiantwyr tai, ond fel brocerwyr mae gennym ddealltwriaeth lawn o'r gyfraith sy'n ymwneud â gwerthu cychod ac felly'n gwneud gwaith a fyddai, mewn achos o werthu tŷ, yn cael ei wneud gan ddau set o gyfreithwyr.
FFIOEDD STORIO:
Rydym yn medru cynnig lle ar y safle i arddangos cychod sydd ar werth ac fe godir tâl am hyn ar ein cyfradd gyffredinol. Mae hyn yn cynyddu'r siawns o werthu gan fod cwsmeriaid sy’n ymweld â'n ystafell arddangos yn medru edrych ar y cwch yn well.
BETH SYDD EI ANGEN GENNYCH CHI?
Trefnwch i gwblhau ffurflen manylion Broceriaeth. Fe gymerwn nifer o luniau digidol er mwyn eu cyhoeddi gyda manylion y cwch ac yn yr hysbysebion. Yn ychwanegol i'n taflen manylion amgaewch gopi o arolwg diweddar os oes un ganddoch.
BE DDYLIECH CHI NEUD :
1. Sicrhewch fod y cwch yn lân a thaclus.
2. Symudwch yr holl offer nad ydynt yn gynwysedig yn y gwerthiant (os yn bosibl).
3. Os nad yw'r cwch mewn defnydd ar hyn o bryd, sicrhewch fod yr holl offer sy'n gynwysedig yn y gwerthiant unai ar y cwch neu mewn storfa cyfagos lle gellir ei archwilio'n ddidrafferth.
4. Cyn belled ag y bo modd sicrhewch fod popeth yn gweithio ac bod unrhyw fân waith trwsio wedi ei gwblhau. Os oes yna unrhyw nam ar y cwch neu'r offer rhowch wybod i ni cyn gynted ag y bo modd.
5. Gwnewch hi'n hwylus i brynwyr archwilio'r cwch drwy'i osod mewn marina neu wely mwd - gallwn eich cynghori ar y lle gorau o fewn eich cyrraedd os bydd angen.
FE FYDDWN NI YN:
Archwilio'r cwch ac yn eich cynghori ar bris y farchnad. Paratoi adroddiad brocer ar gyflwr arwynebol y cwch (D.S. Nid arolwg yw hwn.) Paratoi'r daflen manylion a'r manylion gwerthu gyda lluniau digidol. Cynorthwyo gyda gwneud cynllun o'r cwch. Mae'r cynlluniau mwyaf safonol ar gael gennym. Dangos y cwch i gwsmeriaid gyda chi os dymunwch neu heb i chi fod yn bresennol. Hysbysebu eich cwch yn y cyfryngau traddodiadol ac ar y wê. £50.00 (yn cynnwys T.A.W.) yw'r gost am weinyddu'r broses yma.
CYNGOR BROCERIAETH:
Er mwyn osgoi dryswch ynglŷn â phwy sydd wedi dod o hyd i'r prynwr mae'n well gennym ni fod yr unig asiant sy'n gwerthu eich cwch. Felly, os ydych o ddifrif am geisio gwerthu'r cwch eich hun, rhowch gynnig arni, ac yna, os na fyddwch yn llwyddiannus, gadewch i ni rhoi tro arni.
Serch hynny, os byddwch yn dod o hyd i brynwr, rydym yn fwy na pharod i wneud y chwiliadau a threfnu cytundebau, Bil Gwerthiant, anfonebau T.A.W. a.y.y.b., am ffi a fyddai'n llai na hanner y comisiwn arferol, gan ddibynu ar faint o waith sydd i’w wneud.
Y CAMAU AR GYFER PRYNU A GWERTHU CWCH
1. Gwerthwr i roi cyfarwyddyd i frocer a throsglwyddo'r holl fanylion, ffotgraffau ac unrhyw ddarluniau i'r brocer.
2. Byddwn yn archwilio'r cwch, ysgrifennu adroddiad a chynghori'r gwerthwr am y pris.
3. Byddwn yn argraffu taflenni manylion ac anfon copi atoch i wirio a'i arwyddo cyn ei ddychwelyd atom gydag unrhyw newidiadau. Byddwn yn anfon Cytundeb Rhestru atoch i'w arwyddo yn datgan eich bod yn awyddus i ni werthu'r cwch ar eich rhan.
4. Byddwn yn argraffu taflenni manylion a’u hanfon at gwsmeriaid sydd ar ein bas data.
5. Byddwn yn trefnu i ddangos cwch i brynwr, neu’n trefnu i'r perchennog wneud hyn.
6. Y Prynwr yn gwneud cynnig i'r brocer, unai -
a. Fel ac a welir
b. Yn unol ag arolwg
c. Yn unol â phrawf ar y môr
d. Yn unol a b. a c.
7. Y Gwerthwr yn derbyn (neu'n gwrthod - yn yr achos yma bydd mwy o drafodaethau i ddilyn).
8. Byddwn yn paratoi Cytundeb Gwerthu i'w arwyddo gan y ddau barti.
9. Y Prynwr i dalu blaendal cadw o 10% i gyfrif escrow ein cleient yn ein Banc ni.
10. Y Prynwr yn trefnu arolwg gyda'r arolygwr, y brocer a/neu'r gwerthwr.
11. Os yw'r arolwg yn dderbyniol bydd y Prynwr yn talu'r 90% sy'n weddill. Os nad yw'r arolwg yn dderbyniol ail-drafodir y pris gan amlaf, neu ambell waith ni fydd y gwerthiant yn mynd yn ei flaen.
12. Byddwn yn paratoi Bil Gwerthiant a dogfennau yn ymwneud â newid perchnogaeth.
13. Yna, byddwn yn trefnu trosglwyddo'r cwch.
14. 28 diwrnod ar ôl i'r Prynwr dalu am y cwch a'i gasglu bydd Porth Daniel yn talu'r gwerthwr

Gobeithio eich bod wedi cael digon o wybodaeth; os nad ydych mae croeso i chi gysylltu â ni...cliciwch yma.

Diolch i chi am ymweld â'r wefan, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.

Sôn wrth ffrind storage@porthdaniel.com Printio Marciwch Ni 01248 717784

Dylunwyd gan Delwedd

Porth Daniel RYA Training Centre