Ysgol Bâd Pwer

Rydym yn Ganolfan Hyfforddi Bâd Pwer wedi'i achredu gan RYA a gallwn gynnig y cyrsiau isod:-

Bâd Pwer Cwrs Lefel 1

Cyflwyniad i dechnegau hwylio ar gyfer lansio ac adfer cwch o drelar lôn, trin cwch o ddydd i ddydd a defnyddio offer diogelwch.

Bâd Pwer Cwrs Lefel 2

Ar y cwrs deuddydd yma ceir y sgiliau a'r gwybodaeth gefndirol angenrheidiol ar gyfer gyrru bâd pwer. Mae'r cwrs yn sylfaen i'r Tystysgrif Rhyngwladol Cymhwysedd ac yn cynnwys trafod cwch mewn mannau cyfyng, ymarferion cyflymder uchel a rheoliadau gwrthdrawiad.

Yr hyfforddwr ar bob un o’n cyrsiau fydd Rob Evans sy'n Feistr Iat Masnachol RYA a Hyfforddwr Bâd Pwer RYA.

Bydd Porth Daniel yn hyfforddi yn unol â maes llafur RYA (arfordirol) ond yn rhoi sylw penodol i amodau lleol Afon Menai.

Lleolir y cyrsiau ar ein Humber Rib 6 metr ein hunain, ond mae modd trefnu hyfforddiant ar eich cwch eich hun os ydych yn dymuno hynny.

Ffioedd Cwrs
Lefel 1 £100 y person. (Cwrs undydd)
Lleiafrif o 2 berson, mwyafrif o 3 pherson.

Lefel 2
£200 y person. (Cwrs deuddydd)
Lleiafrif o 2 berson, mwyafrif o 3 pherson.

Asesiad Uniongyrchol o yrrwr bâd pwer profiadol ar gyfer Lefel 2
£70.00 (asesiad ½ diwrnod) y person.

Gellir trefnu cyrsiau yn ôl y galw, e-bostiwch neu ffoniwch gyda'ch anghenion. (01248717784) neu storage@porthdaniel.com

Gobeithio eich bod wedi cael digon o wybodaeth; os nad ydych mae croeso i chi gysylltu â ni...cliciwch yma.

Diolch i chi am ymweld â'r wefan, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.

Sôn wrth ffrind storage@porthdaniel.com Printio Marciwch Ni 01248 717784

Dylunwyd gan Delwedd

Porth Daniel RYA Training Centre