Cyllid Morol

I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chyllid morol, cliciwch yma

Nid yw benthyca arian ar gyfer prynu cwch yn gymhleth. Rydym wedi hen arfer benthyca er mwyn prynu ty neu gar ac os bydd y cyllid wedi'i gynllunio'n dda gallwch fod yn berchennog cwch am ad-daliad misol rhesymol.
Yn fyr, mae dau ffordd o fenthyg arian - wedi'i ddiogelu neu heb ei ddiogelu. (Gall y cwch fod yn ernes yn erbyn y benthyciad).
Gallwn gael gafael ar adnoddau cyllid deniadol iawn, pecynau unigol ar gyfer eich gofynion morol boed hynny ar gyfer prynu cwch newydd neu gwch ail-law.
Er mwyn cadw costau yn isel, nid oes ffioedd arolwg na phrisiad ar gychod o dan 12 mis oed. Mae modd i ad-daliadau ar rai benthyciadau godi a gostwng, ond ni fydd eich ad-daliadau'n gwneud hyn gyda rhai pecynau morol penodol.
Gellir trefnu cyfnod ad-dalu o hyd at 10 mlynedd. Hefyd, ceir opsiwn "ad-daliadau isel ar y cychwyn".
cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ar gyllid morol.

Gobeithio eich bod wedi cael digon o wybodaeth; os nad ydych mae croeso i chi gysylltu â ni...cliciwch yma.

Diolch i chi am ymweld â'r wefan, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.

Sôn wrth ffrind storage@porthdaniel.com Printio Marciwch Ni 01248 717784

Dylunwyd gan Delwedd

Porth Daniel RYA Training Centre