Hanes

"Tref fechan gydag amrywiaeth o siopau a thafarndai a thipyn o hanes arforol iddi yw Porthaethwy. Ceir yr olygfa orau o’r dref o'r tir mawr (neu'n wir o'r dŵr), lle mae i’w gweld yn union fel y’i gwelid gan longwyr y gorffennol wrth iddynt ddychwelyd adref o'r môr: clystyrau o fythynod yn codi o lan y dŵr gyda thai mawr y perchenogion llongau cyfoethog y tu cefn iddynt.

Wrth gwrs prif atyniad y dref yw Pont Borth ei hun. Adeiladwyd campwaith pensaernïol Thomas Telford yn 1826 a rhoddodd ddiwedd i'r gwasanaethau fferi lleol a fu tan hynny yr unig gysylltiad rhwng Ynys Môn a'r tir mawr.

Mae’r bont a mynyddoedd di-guro Eryri yn y cefndir yn wirioneddol ysblennydd ac wedi’u hanfarwoli mewn nifer fawr o ddarluniau a ffotograffau.

Wrth ddod i'r dref o gyfeiriad y bont mae'r ffordd o'r cylchfan cyntaf yn mynd heibio'r Anglesey Arms (1830) ac Eglwys Santes Fair (1858) sydd ar fryncyn gwelltog. Archfarchnad sydd bellach ar safle'r hen farchnad wartheg.

Mae’r troad o'r cylchfan tuag at Biwmares yn arwain heibio Gwesty Fictoria (1852). Adeiladwyd yr eglwys Bresbyteraidd Saesneg drws nesaf i'r gwesty yn 1888; mae'r tŵr yn debyg iawn i finaret mosc Twrcaidd.

IYng nghanol y dref, wedi'u clystyru o amgylch Sgwâr Uxbridge, mae siopau sydd wedi bod yn cyflenwi'r ardal ers oes Fictoria. Mae strydoedd culion yn arwain i lawr at lan y dŵr lle gweithredai'r gwasanaethau fferi cyn adeiladu'r bont.

Roedd y iard goed ger Porth Daniel yn cael ei defnyddio mor fuan â 1828. Y teulu Davies o Dreborth oedd yn ei pherchen ac roedd eu cychod yn allforio llechi ac yn cario allfudwyr ymhell oddi wrth tlodi Cymru; coed oedd y balast ar y fordaith yn ôl adref.

Yn ddiweddarach, angorai stemars olwyn o Lerpwl ger Pier St George lle heddiw angorir y Tywysog Madog - llong ymchwil Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor.

Mae Ffair Borth - achlysur blynyddol hynaf y dref - yn dyddio'n ôl i 1691 ymhell cyn adeiladu'r bont. Pob blwyddyn ar ddiwedd mis Hydref daw marchnad a ffair bleser i'r dref i barhau traddodiad sy'n mynd yn ôl 300 mlwyddedd."
[Source: http://www.angleseyheritage.org]

Beth am ein helpu i ddarganfod mwy?
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am Borth Daniel yr hoffech i ni ei gynnwys uchod, cliciwch yma i gysylltu â ni.

Gobeithio eich bod wedi cael digon o wybodaeth; os nad ydych mae croeso i chi gysylltu â ni...cliciwch yma.

Diolch i chi am ymweld â'r wefan, edrychwn ymlaen at eich cyfarfod.

Sôn wrth ffrind storage@porthdaniel.com Printio Marciwch Ni 01248 717784

Dylunwyd gan Delwedd

Porth Daniel RYA Training Centre