Amdanom ni 
Mae Porth Daniel wedi’i leoli’n hwylus ar lan yr Afon Menai yn nhref Porthaethwy, Ynys Môn. Ar y lleoliad mae yna lu o gyfleusterau ynghyd ag un o'r adnoddau lansio gorau yn y cyffiniau.
Mae hon yn ardal wych yn gyfer pysgota, sgïo, ton fyrddio ac yma ceir y dŵr llonydd gorau yng Ngogledd Cymru. Mewn gwch gallwch ymweld â nifer o lefydd diddorol, gan gynnwys Caernarfon a Chonwy ar y tir mawr, Biwmaris ymhellach i lawr yr Afon Menai, a'r gwarchodfa adar ar Ynys Seiriol.
Mae gennym ein tafarn ein hunain,
Y LIVERPOOL ARMS, drws nesaf i'r iard gychod. Yma, mae tîm o gogyddion talentog yn defnyddio cynnyrch lleol, ffres i greu prydau hynod o flasus.
|